
Bagloriaeth Cymru - Prif Ddysgu Creadigol a'r Cyfryngau
O fis Medi 2010 ymlaen, bydd cymhwyster Prif Ddysgu Creadigol a'r Cyfryngau ar gael i fyfyrwyr 14-19 oed yng Nghymru, gan ddarparu gwybodaeth ddofn am y pwnc a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar fyd busnes a Sefydliadau Addysg Uwch.
Datblygwyd y cymhwyster newydd mewn partneriaeth gyda'r Cynghorau Sgiliau Sector (gan gynnwys Skillset, Skillfast a Sgiliau Creadigol a Diwylliannol), cyflogwyr a Phrifysgolion. Bydd dysgwyr yn medru gweld yr hyn sydd ei angen mewn maes galwedigaethol heb orfod ymrwymo at yrfa yn y maes hwnnw.
Bydd Prif Ddysgu Creadigol a'r Cyfryngau yn darparu cyfle i'r dysgwyr feistroli sgiliau hanfodol i swyddogaethau creadigol yn y gweithle.
- Creadigrwydd mewn cyd-destun - datblygu ymwybyddiaeth o ddylanwad ffactorau allanol ar greadigrwydd.
- Meddwl a gweithio'n greadigol - ffyrdd o archwilio, arbrofi a datblygu syniadau, sgiliau a thechnegau;
- Egwyddorion, prosesau ac arferion - sgiliau, technegau a phrosesau i wireddu syniadau'r dysgwyr;
- Busnes a menter greadigol - dealltwriaeth o sefyllfaoedd real a'r sgiliau sydd eu hangen ar fyfyrwyr i lwyddo yn y diwydiant.
Cyflwynir y cymhwyster drwy gyfuniad o addysg academaidd ac ymarferol, ar sail prosiect gyda chyflogwyr yn y diwydiant.
Am fwy o wybodaeth ewch at Gwefan Bagloriaeth Cymru




