Ymchwil
Cyn y gellir mynd i'r afael ag anghenion sgiliau y diwydiannau clyweledol a chyhoeddi, mae'n rhaid eu hadnabod. Mae Skillset yn gweithredu rhaglen ymchwil gynhwysfawr am y diwydiannau eu hunain a'r ddarpariaeth hyfforddiant sydd ar gael iddynt. Cymeradwyir ein rhaglen ymchwil gan y diwydiant. Ni yw'r arbenigwyr blaenllaw wrth ddarparu ymchwil ar gyfer y diwydiannau clyweledol. Mae ein rhaglen ymchwil yn ein galluogi i:
- Ddeall maint, siâp a ffurf gweithlu'r diwydiannau clyweledol a chyhoeddi;
- Nodi bylchau a phrinderau sgiliau a hysbysu buddsoddiad Skillset mewn hyfforddiant i fynd i'r afael â'r problemau hyn;
- Galluogi cyflogwyr i flaenoriaethu hyfforddiant mewnol;
- Nodi materion amrywiaeth a mynediad yn y diwydiant a gweithio gyda chyrff eraill y diwydiant i wella cynrychiolaeth;
- Dylanwadu ar bolisi'r llywodraeth i sicrhau fod darpariaeth AU ac AB yn cwrdd ag anghenion y diwydiant;
- Defnyddio gwybodaeth y farchnad lafur (GFL) i ddenu buddsoddiad gan y llywodraeth a'i hasiantaethau cyhoeddus yn y diwydiannau clyweledol; a
- Hysbysu ein Strategaethau Sgiliau a'n Cynlluniau Datblygu Gweithlu'r Sector.
Mae ein tîm ymchwil yn rhoi gwybodaeth hanfodol am sgiliau i'r diwydiant i helpu i sicrhau ei fod yn parhau yn sefydlog ac yn gystadleuol. Am wybodaeth bellach am Skillset neu'r rhaglen ymchwil, cysylltwch â Vicky Jones vickyj@skillset.org.
Arolwg o Weithlu'r Diwydiannau Cyfryngau Creadigol 2008
Dyma eich cyfle i leisio'ch barn ar anghenion y diwydiant yn y dyfodol a sicrhau bod eich anghenion yn cael eu cwrdd.
Read MoreCydbwyso Plant a Gwaith yn y Diwydiannau Clyweledol
Mae'r astudiaeth hon yn ymchwilio i'r effeithiau o weithio mewn teledu a ffilm ar y penderfyniad o ddechrau teulu, a chydbwyso cyfrifoldebau.
Read MoreArolwg o Weithlu'r Diwydiannau Clyweledol 2005
Graddedigion sydd fwyaf amlwg yng ngweithlu'r cyfryngau, yn ôl ymchwil newydd ar batrymau gwaith a datblygu sgiliau yn y diwydiannau clyweledol, yn seiliedig ar arolwg o bron i 7,000 o bobl...
Read MoreCyfrifiad Cyflogaeth Skillset 2006
Ar gael nawr - canlyniadau Cyfrifiad Cyflogaeth Skillset 2006. Cewch weld pwy sy'n gweithio yn niwydiannau clyweledol y DU ac ymhle
Read MoreTaro'n ôl yn erbyn bwlio yng ngweithleoedd y cyfryngau
Mae un person o bob pedwar yn cael ei fwlio ar ryw adeg yn ystod eu bywyd gwaith, yn ôl yr amcangyfrifon cyfredol. Cymerwch ran mewn ymgyrch i atal bwlio yn niwydiannau Cyfryngau'r DU...
Read MoreContact the Research team
The work of the research team provides an overview of how effectively the current supply of training and education matches demand, and identifies areas where there is scope for development and improvement
Read More