Diffinio'r diwydiannau cyfryngau creadigol
Skillset yw Cyngor Sgiliau'r Sector ar gyfer y Diwydiannau Cyfryngau Creadigol, ac mae'n gweithio i wella safon sgiliau ym mhob sector o'r diwydiant o fewn ei gylch gorchwyl.
Mae Skillset yn rhannu'r diwydiannau cyfryngau creadigol i naw sector:
- animeiddio;
- adnoddau (sy'n cynnwys ôl gynhyrchu, llogi stiwdio ac offer, effeithiau arbennig corfforol, darllediadau allanol, labordai prosesu, darlledu, cynhyrchu offer clyweledol a gwasanaethau eraill ar gyfer ffilm a theledu);
- cyfryngau rhyngweithiol;
- creu cynnwys arall (cynhyrchu promos pop, corfforaethol a hysbysebion);
- cyhoeddi (llyfrau, cyfnodolion, cylchgronau, papurau newydd, cyfeirlyfrau a chronfeydd data, asiantaethau newyddion a gwasanaethau gwybodaeth electronig);
- delweddu lluniau;
- ffilm;
- gemau cyfrifiadurol;
- radio; a
- theledu.
Mae gan y mwyafrif o'r sectorau hyn eu cynnyrch eu hunain a'u meysydd gwaith arbenigol. Mae eraill yn darparu gwasanaethau arbenigol i gefnogi neu ategu gwaith sectorau eraill. Mae gan bob sector ei sgiliau ac arbenigrwydd ei hun, ac felly ei anghenion sgiliau a hyfforddiant ei hun, ond bellach mae symudiad cynyddol o rhyddgyfrannwyr rhwng sectorau perthnasol.
Mae Skillset yn gweithio gyda'r sectorau hyn yn unigol, ac ar y cyd, er mwyn gwella safon sgiliau i gyflawni holl anghenion y diwydiannau cyfryngau creadigol.
Mae Skillset yn casglu gwybodaeth ar faint a chyfansoddiad y gweithlu ar gyfer pob sector, ac yn datblygu safonau sy'n diffinio'r meysydd swyddi penodol a'r swyddogaethau perthnasol. Rydym yn gweithio gydag ymarferwyr y diwydiant i ddatblygu cymwysterau sy'n cyflawni anghenion y diwydiant, casglu gwybodaeth ar hyfforddiant a chyllid sydd ar gael, a darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i newydd-ddyfodiaid, rhyddgyfrannwyr a chwmnïau er mwyn rhoi'r offer angenrheidiol iddynt ddatblygu eu sgiliau.