Gwneud cwyn
Gweithdrefn Gwyno i Gwsmeriaid Skillset
Mae Skillset yn gwmni cyfyngedig dan warant ac yn elusen gofrestredig. Mae'n aelod o'r Rhwydwaith Sgiliau ar gyfer Busnes i Gynghorau Sgiliau Sector ac ar hyn o bryd caiff ei reoleiddio gan yr Asiantaeth Datblygu Sgiliau Sector. Noder o 1af Ebrill 2008, rheoleiddir Skillset gan Gomisiwn Cyflogaeth a Sgiliau y DU.
Mae Skillset yn ymrwymedig i fod yn agored ac yn hygyrch ac rydym yn croesawu pob sylw ar ein gwaith a'r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu. Anelwn at ddarparu'r safonau uchaf o broffesiynoldeb a gwasanaeth cwsmeriaid. Fodd bynnag, gall fod achlysuron lle rydych yn teimlo'n anfodlon â'r gwasanaeth yr ydych wedi ei dderbyn gennym. Mae ein gweithdrefn gwyno i gwsmeriaid fel a ganlyn:
Cam 1 - gwyn gychwynnol
Os ydych yn anfodlon ag unrhyw agwedd ar y gwasanaeth yr ydych wedi'i dderbyn gan Skillset, gofynnwn i chi gysylltu yn gyntaf a'r aelod o staff dan sylw. Gobeithiwn y gall y rhan fwyaf o gwynion gael eu datrys yn gyflym yn y ffordd hon, ac y byddwch yn fodlon â'r canlyniad.
Cam 2 - Cwyn Ysgrifenedig
Os ydych yn anfodlon â'r ymateb cychwynnol hoffem i chi gyflwyno manylion eich cwyn yn ysgrifenedig. Gofynnwn i chi gysylltu â ni o fewn 4 wythnos i'r gwyn gychwynnol. Os oes angen fersiwn print mawr arnoch e-bostiwch complaints@skillset.org or neu ffoniwch 0207 713 9807 - gallwch gyflwyno cwyn drwy naill ai:
- gwblhau'r ffurflen isod (ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg) a'i e-bostio i complaints@skillset.org ;

Ffurflen Gwyno i Gwsmeriaid neu gallwch bostio'r ffurflen, neu Dâp Sain neu CD i:
Complaints, Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London N1 9GB
- os ydych yn defnyddio ffôn testun, defnyddiwch y gwasanaeth Typetalk. Ceir gwybodaeth ar y wefan (mae'r gwasanaeth hwn ar gael yn Saesneg yn unig)
Ar ôl i'ch cwyn gael ei dderbyn, byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth o fewn 5 niwrnod gwaith yn nodi pwy fydd yn ymateb i'ch cwyn a'u manylion cyswllt. Byddwch yn derbyn ymateb llawn gan y Rheolwr (Rheolwyr) perthnasol o fewn 15 diwrnod gwaith.
O'r pwynt hwn ymlaen, bydd gan bob gohebiaeth gyfeirnod ar gyfer y gwyn benodol hon a hoffem i chi ddyfynnu hwn yn unrhyw ohebiaeth y byddwch yn ei hanfon atom. Cofnodir pob gohebiaeth yn ein cofnod cwynion mewnol.
Cam 3 - Os nad ydych yn fodlon
Os nad ydych yn fodlon â'r ymatebion yr ydych wedi eu derbyn, yna bydd ein Prif Swyddog Gweithredol yn archwilio i'r gwyn. Cyfeiriwch eich llythyr at:
Y Prif Weithredwr, Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB
Eto gallwch gysylltu â ni drwy ffôn testun neu dap sain / CD. Byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth o fewn pum niwrnod gwaith ac ymateb llawn o fewn 15 diwrnod gwaith.
Bydd y Prif Swyddog Gweithredol yn archwilio amgylchiadau eich cwyn, yn adolygu'r ymatebion yr ydych wedi eu derbyn hyd yma ac yn siarad â'r staff dan sylw. Yna byddwch yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig o'r penderfyniad ynghylch eich cwyn a pha gamau, os o gwbl, fydd yn cael eu cymryd.
Cam 4 - Apeliadau
Os ydych wedi bod drwy'r tri cham blaenorol â'ch bod yn dal i anghytuno â'r penderfyniad a wnaed gan y Prif Weithredwr gallwch apelio i Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr/Cyfarwyddwyr Skillset.
Ysgrifennwch at y Cadeirydd, d/o Cwynion, Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London N1 9GB - neu e-bostiwch complaints@skillset.org . Byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth o'ch apêl o fewn 5 niwrnod gwaith.
Bydd y Cadeirydd yn rhoi ymholiadau pellach ar waith i mewn i'r mater o anghydfod. Gall apeliadau gymryd yn hwy i'w cyflafareddu oherwydd lefel yr archwilio bydd ei hangen. Byddwch yn derbyn ymateb i'ch apêl yn ysgrifenedig gan Gadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr/Ymddiriedolwyr Skillset o fewn 20 diwrnod gwaith i'w derbyn.
CEISIADAU AM GYLLID - CWYNION
Noder bod gennym weithdrefn gwyno ar wahân ar gyfer penderfyniadau ar geisiadau am gyllid a gellir cael manylion y gweithdrefnau hyn gan y person y cyflwynwyd eich cais am gyllid iddynt.
Eich Gwybodaeth BersonolOs ydych yn defnyddio ein gweithdrefn gwyno, rydych yn cytuno y gallwn ddefnyddio unrhyw wybodaeth bersonol yr ydych yn ei hanfon atom at ddibenion yn ymwneud â'ch cais. Efallai hefyd y byddwn yn rhoi eich gwybodaeth bersonol i bobl a sefydliadau eraill os bydd rhaid i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith neu os ydych wedi rhoi eich caniatâd i ni.
If your computer has the relevant software, click the document icons or document titles to view the relevant document. Right-click (PC) or hold your mouse-button down (Mac) on the document icon/title, you'll be given the option to save the file to disk. If you don't have the necessary software to view the documents, take the above links to download free reader programs.