Ymroddiad Skillset i amrywiaeth a chyfle cyfartal
Mae Skillset yn hynod falch o fod wedi mynd tu hwnt i'r safon ar gyfer cyflawni Buddsoddwyr mewn Pobl ac wedi ennill y wobr Efydd. Ar ben y 39 o ofynion tystiolaethol gorfodol cyflawnodd Skillset 27 o rai eraill gan ennill yr Efydd. Yn yr adborth oddi wrth yr aseswyr nodwyd fod diwylliant Skillset yn cefnogi hinsawdd o alluogi a gwerthfawrogi staff.
Gallwch ddarllen mwy am Safon BMP ar wefan IIP Bronze standard
Mae Skillset yn ymrwymo wrth amrywiaeth a chyfle cyfartal ac rydym wrth ein bodd o fod wedi ennill nôd barcut Cadarnhaol tuag at Bobl Anabl gan yr asiantaeth llywodraeth Canolfan Byd Gwaith
Ymdrechwn i sicrhau fod ymgeiswyr i gyd yn cael eu trin yn deg, a chroesawn geisiadau o bob carfan o'r gymuned. Os oes gennych anabledd a'ch bod yn cwrdd â gofynion hanfodol y swydd, cewch eich gosod ar y rhestr fer ar gyfer y broses recriwtio.
I ddarllen mwy am y pump ymrwymiad y mae Skillset yn eu gwneud wrth ddefnyddio'r nôd barcut hwn, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Positive About Disabled People Kitemark.
Mae Skillset yn falch iawn hefyd o fod yn Bencampwr Amrywiaeth Stonewall, ac yn enwedig o falch o fod ymhlith 100 o Gyflogwyr Uchaf Stonewall yn 2008, 2009, 2010 and 2011. Stonewall Diversity Champion,
Fforwm Prydain ar gyfer arfer da yw Stonewall lle gall cyflogwyr weithio gyda Stonewall a'i gilydd i hyrwyddo cyfle cyfartal ar gyfer lesbiaid, gwyr hoyw a phobl ddeuryw yn y lle gwaith.
Trwy gyfuniad o waith caled a thalentau grwp amrywiol o bobl gallwn wneud gwahaniaeth i ansawdd y diwydiannau cyfryngau creadigiol yn y DU. Edrychwch ar ein swyddi gweigion i weld pa ran y gallech chi ei chwarae.