Swyddi yn Skillset
Pan fydd yn recriwtio, mae Skillset yn chwilio am chwaraewyr tîm brwdfrydig a dawnus i hybu llwyddiant ein sefydliad. Dyma pam rydym yn cynnig buddion gwych, yn cynnwys:
|
|
Os cewch chi drafferth gyda lawrlwytho'r pecynnau cais isod neu unrhyw wybodaeth arall, mae croeso i chi e-bostio Michelle Care ar michellec@skillset.org neu alw Skillset ar 020 7713 9800. Mae'n hanfodol llenwi'r ffurflen geisio am swydd ar gyfer pob swydd.
Ceisiadau drwy'r e-bost
Mae Skillset yn croesawu ceisiadau a gyflwynir drwy'r e-bost. Cofiwch ddyfynnu 'Skillset recruitment' wedyn teitl y swydd yr ydych yn ceisio amdani yn llinell destun yr e-bost. Byddwch yn derbyn neges i gydnabod derbyn eich cais o fewn 24 awr. Os na chewch chi gydnabyddiaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni ar 020 7713 9800. Nid yw Skillset yn derbyn CVau.
Mae Prif Swyddfa Skillset yn Focus Point yn cydymffurfio'n llwyr â'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.
Gwerthoedd Skillset
Mae ein Gwerthoedd wedi cael eu datblygu mewn ymgynghoriad gyda'n cyd-weithwyr. Maen't yn gyfuniad o agweddau yr ydym ni'n credu eu bod yn real a mesuriadwy ac yn rhan o gyfansoddiad a DNA Skillset.
Read MoreYmroddiad Skillset i amrywiaeth a chyfle cyfartal
Mae Skillset wedi ymroddi i amrywiaeth a chyfle cyfartal. 'Rydym yn falch o fod wedi derbyn Gwobr Efydd BMP; y nôd Barcud 'Positif am Bobl Anabl'; i fod yn aelod o Grwp Amrywiaeth Cefnogi Stonewall; ac i fod yn un o Gyflogwyr y 100 Uchaf Stonewall.
Read More