skip to page contents

Gyrfaoedd | Hyfforddiant | Cefnogaeth i Gwmnïau | Safoniau | Cymwysterau | Ymchwil | Strategaeth | Ariannu | Cenhedloedd a Rhanbarthau | Am Skillset
Animeiddio | Computer Games | Corfforaethol & Hysbysebion | Adnoddau | Ffilm | Cyfryngau Rhyngweithiol | Llun-Ddelweddau | Cyhoeddi | Radio | Teledu
Text size: A A A

Am Skillset

Yn yr Adran yma

Chwilio am Gwrs

Chwiliwch am gyrsiau ffilm, teledu, radio, animeiddio, y cyfryngau rhyngweithiol a llun ddelweddau yn y DU yn y cyfeirlyfr BFI/Skillset.








Cynghorau Sgiliau Sector

Mae Cynghorau Sgiliau Sector yn cynnig arweiniad i gyflogwyr ar gamau gweithredu strategol wedi’u targedu i ddiwallu eu hanghenion sgiliau sector a busnes. Yn gyfnewid am hyn, maent yn derbyn arian cyhoeddus sylweddol a mwy o drafodaeth gydag adrannau’r llywodraeth a’u hasiantaethau cyhoeddus ledled y DU.

Mae’r Llywodraeth wedi nodi pedwar amcan allweddol i bob Cyngor Sgiliau Sector, sef:

  • Lleihau prinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau
     
  • Gwella cynhyrchiant, perfformiad busnes a gwasanaethau cyhoeddus
  • Rhoi mwy o gyfle i hybu sgiliau a chynhyrchiant holl weithlu’r sector, yn cynnwys gweithredu ar gyfle cyfartal
  • Gwella’r ddarpariaeth addysg, yn cynnwys prentisiaethau, addysg uwch a safonau galwedigaethol cenedlaethol

Mae Skillset yn ymrwymedig i ddatblygu ein gweithgareddau i symud yn nes at gyflawni’r amcanion hyn. I gyflawni’r amcanion hyn i’r diwydiannau rydym yn eu cynrychioli, mae Skillset wedi nodi targedau penodol yn ei broses cynllunio busnes. Mae’r rhain wedi’u hamlygu yn swyddogaeth Skillset.

Sut y daeth Skillset yn Gyngor Sgiliau Sector?

Er mwyn bod yn Gyngor Sgiliau Sector, mae Skillset wedi’i drwyddedu gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Sgiliau, mewn ymgynghoriad â’r Adran Masnach a Diwydiant, a’r Gweinidogion Dysgu Gydol Oes yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Skillset oedd y sefydliad cyntaf i gael trwydded fel “Cyngor Sgiliau Sector Arloesol” ym mis Mawrth 2002.

Dyfarnwyd trwydded pum mlynedd lawn i ni ym mis Ionawr 2004 ar ôl mynd trwy broses asesu drylwyr gan yr Asiantaeth Datblygu Sgiliau Sector, Gweinyddiaethau Datganoledig, adrannau perthnasol y llywodraeth, ymgynghorwyr annibynnol a Phanel Asesu Trwyddedau.

Beth mae Cynghorau Sgiliau Sector yn ei wneud?

Mae disgwyl i Gyngor Sgiliau Sector:

  • Arwain yr ymgyrch i hybu sgiliau a datblygiad gweithlu’r sector gan wella cynhyrchiant, twf busnes a chyflogaeth wrth wneud hyn
  • Datblygu gwybodaeth a dadansoddiad heb eu hail o angen sgiliau’r sector, gan eu cyfathrebu’n broffesiynol mewn ffordd sy’n arwain at newid gwirioneddol yn y gweithle a’r cyflenwad o sgiliau sy’n gysylltiedig â gofynion newidiol a gofynion y dyfodol
  • Dylanwadu’n uniongyrchol ar broses gynllunio ac ariannu addysg a hyfforddiant ledled y DU, gan weithio o fewn y trefniadau arbennig ym mhob gwlad
  • Creu cysylltiadau cryf rhwng cyflogwyr, ysgolion, colegau, darparwyr hyfforddiant ac addysg uwch i ddylanwadu ar benderfyniadu pobl ifanc ac oedolion nad ydynt yn rhan o’r gweithlu eto
  • Datblygu tystiolaeth ddarbwyllol a rhannu arferion gorau i hyrwyddo’r achos busnes ar gyfer buddsoddi mewn sgiliau a defnyddio pobl yn fwy effeithiol yn y gweithle
  • Cael ei gynnal a bod yn nwylo cyflogwyr a thynnu ar arbenigedd ac ymrwymiad undebau llafur, cyrff proffesiynol a rhanddeiliaid eraill yn y sector

Rhwydwaith Sgiliau i Fusnes

Disgrifiad byr o beth mae'r Rhwydwaith Sgiliau i Fusnes yn ei wneud, pwy sydd yn rhan ohoni a sut mae Skillset yn rhan ohoni.

Read More

Cysylltiadau Sgiliau ar gyfer Busnes

Cyswllt i safle gwe Cynghorau Sgiliau Sector eraill.

Read More

Strategaeth Sgiliau Cenedlaethol

Trwy'r Strategaeth Sgiliau Cenedlaethol, mae'r llywodraeth wedi cydnabod bod rhaid i gyflogwyr arwain yr agenda sgiliau os yw cynhyrchiant i wella.

Read More


Skills For Business Logo
Hafan |  Sector |  Cenhedloedd a Rhanbarthau |  Amdanom Ni |  Chwilio
Hawlfraint 2007-08 Skillset |  Polisi Defnydd Data |  Am y Safle Hwn |  Deddf Hygyrchedd

Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB. Tel: 020 7713 9800