
Cytundeb Sgiliau Sector Skillset yng Nghymru
Fel Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer y Diwydiannau Cyfryngau Creadigol, swyddogaeth Skillset yw sicrhau bod gan ddiwydiannau'r DU y bobl gywir, gyda'r sgiliau cywir, yn y man cywir, ar yr adeg gywir, er mwyn iddynt barhau i fod yn gystadleuol.
Mae'r Cytundeb Sgiliau Sector (CSS) ar gyfer y diwydiannau cyfryngau creadigol yng Nghymru yn nodi sut y bydd Skillset Cymru yn cyflawni'r gorchwyl o sicrhau y gall y sector yng Nghymru gael mynediad at y sgiliau a'r bobl sydd eu hangen er mwyn cyflawni ei lawn botensial. Mae'r cytundeb yn dangos sut y bydd Skillset Cymru a'r partneriaid yn y diwydiant a'r sector gyhoeddus yn cyflawni gweithredoedd penodol i gwrdd â'r prif anghenion, a fydd yn eu tro yn arwain at well perfformiad busnes ledled Cymru.
Mae'r cytundeb yng Nghymru wedi'i gynllunio i'w ddefnyddio ar y cyd gyda Chytundebau Sgiliau Sector Skillset yn Lloegr a'r Alban, er mwyn darparu ymateb wedi'i gydlynu ledled y DU i anghenion y diwydiant.
Gallwch lawrlwytho'r ddogfen lawn, crynodeb gweithredol a dogfen Cwestiynau Cyson ar Gytundeb Sgiliau Sector Skillset drwy ddilyn y linc isod
If your computer has the relevant software, click the document icons or document titles to view the relevant document. Right-click (PC) or hold your mouse-button down (Mac) on the document icon/title, you'll be given the option to save the file to disk. If you don't have the necessary software to view the documents, take the above links to download free reader programs.