Hyfforddiant
Dyma lle y gall Skillset helpu. Ein rôl ni yw sicrhau y gall unigolion a sefydliadau gael mynediad i hyfforddiant galwedigaethol o ansawdd uchel. Rydym yn gweithio gyda'r diwydiant, darparwyr hyfforddiant ac addysg ac asiantaethau cyhoeddus i sicrhau fod y ddarpariaeth hyfforddiant yn cwrdd ag anghenion y diwydiant. Rydym yn achredu cyrsiau ac yn cymeradwyo darparwyr ar sail ansawdd a pherthnasedd i'r diwydiant.
Yn adran hon y safle, fe welwch y canlynol: cyfleoedd i gofrestru ar gyfer cynlluniau hyfforddiant â chymhorthdal; manylion cyrsiau achrededig a darparwyr hyfforddiant cymeradwy; cronfa ddata cyrsiau hyfforddiant Skillset/BFI; cefnogaeth ar gyfer gweithwyr llawrydd a darparwyr hyfforddiant; gwybodaeth hyfforddiant iechyd a diogelwch; a chynlluniau a dargedwyd at newydd-ddyfodiaid i'r diwydiannau.
Rhwydwaith Academi Skillset
Mae Rhwydweithiau Academi Sgrin a Chyfryngau Skillset yn hwyluso cydweithrediad rhwng addysg a'r diwydiant er mwyn cynhyrchu dyfeisgarwch a fydd yn sicrhau bod diwydiannau creadigol y DG yn parhau i fod yn gystadleuol yn fyd-eang.
Read MoreCymeradwyaeth ac Achrediad
Dyfarnir Achrediad Skillset i gyrsiau ymarferol penodol yn y DU sy'n darparu'r sgiliau, gwybodaeth a phrofiad sy'n angenrheidiol i unigolion fynd i mewn i'r diwydiannau clyweledol yn hyderus.
Read MoreCyrsiau Byr â Chymhorthdal i weithwyr llawrydd teledu
Diweddarwch eich sgiliau a manteisio ar ddisgownt o 70%! Mae Cronfa Deledu Llawrydd Skillset yn cefnogi'r cyrsiau hynny sy'n cwrdd â'r safonau uchel sy'n ofynnol gan y diwydiant darlledu yn unig.
Read MoreIechyd a Diogelwch
Amddiffyn y cast a'r criw ac osgoi'r posibilrwydd o gamau cyfreithiol, yw prif flaenoriaeth pob cwmni ac unigolyn.
Read MoreRhaglen Gyflwyno'r Diwydiant
Mae Rhaglen Gyflwyno'r Diwydiant wedi cael ei chynnal yn 2006 gan helpu nifer o newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant gymryd y cam nesaf yn eu gyrfa. I gael mwy o wybodaeth am fanylion y rhaglen darllenwch ymlaen
Read More