skip to page contents

Gyrfaoedd | Hyfforddiant | Cefnogaeth i Gwmnïau | Safoniau | Cymwysterau | Ymchwil | Strategaeth | Ariannu | Cenhedloedd a Rhanbarthau | Am Skillset
Animeiddio | Computer Games | Corfforaethol & Hysbysebion | Adnoddau | Ffilm | Cyfryngau Rhyngweithiol | Llun-Ddelweddau | Cyhoeddi | Radio | Teledu
Text size: A A A

Teledu

Skillset Academy Network
Cyllido hyforddiant
Dweud Eich Dweud
Cyngor Gyrfaoedd dros y ffôn
Newyddion Skillset

Chwilio am Gwrs

Chwiliwch am gyrsiau ffilm, teledu, radio, animeiddio, y cyfryngau rhyngweithiol a llun ddelweddau yn y DU yn y cyfeirlyfr BFI/Skillset.








Claudia Winkleman seated next to a camera on the set of Strictly Come Dancing

Swyddi mewn Teledu

Mae tri phrif faes gwaith yn y sector teledu, ac mae gwahanol fathau o bobl, gwahanol sgiliau, gwahanol lwybrau hyfforddi a gwahanol lwybrau gyrfaol ar gyfer pob un.

 

Cynhyrchu (Cynnwys)

Cynhyrchu (Technegol)

Gweinyddu, Cefnogi a Gwerthu

 

CYNHYRCHU - CYNNWYS
Mae rolau yn cynnwys: Cynhyrchydd, Cyfarwyddwr, Newyddiadurwr, Ymchwilydd, Awdur

Mae'r maes hwn yn rhannu i nifer helaeth o genres rhaglenni. Y prif bethau y chwilir amdanynt yw: syniadau ac effeithlonrwydd, yn ogystal â'r galluoedd penodol ar gyfer y rôl yr ydych yn ceisio amdani. Dewch i ni ystyried dau genre:

Rhaglenni Ffeithiol - Materion Cyfoes, Rhaglenni Dogfen
I fod yn gynhyrchydd neu'n gyfarwyddwr yn y maes hwn, llwybr gyrfaol cyffredin byddai hyfforddi fel newyddiadurwr mewn print neu radio, neu fel ymchwilydd mewn teledu. O'r man hwnnw byddai rhywun yn symud ymlaen i fod yn uwch ymchwilydd mewn teledu, ac yna'n Gynhyrchydd Cynorthwyol ac yna'n Gynhyrchydd a / neu'n Gyfarwyddwr. Byddai hwnnw'n llwybr cyffredin, ond byddwch yn aml yn dod ar draws cyfarwyddwyr y mae ganddynt radd mewn Gwleidyddiaeth efallai, cyn dod yn recordydd sain ac yna'n Gyfarwyddwr, neu ryw lwybr anarferol a difyr arall!

Rhaglenni Ffuglen - Drama Deledu
Daw cynhyrchwyr Drama Deledu o amrywiaeth o gefndiroedd, a thrwy amrywiaeth o lwybrau. Mae yna lwybr gyrfaol cyffredin - o ryw fath. Efallai y byddant yn astudio Drama neu Saesneg yn y brifysgol - efallai na fyddant. Efallai y byddant yn gweithio yn y theatr ar ôl graddio ac yna'n symud ymlaen i ddarllen neu ysgrifennu sgriptiau, neu waith cysondeb mewn teledu. Ond byddwch yn dod ar draws Cynhyrchwyr nad ydynt wedi gwneud yr un o'r pethau hyn, a chymryd llwybrau eraill fel symud o Ysgrifenyddes Cynhyrchu i Gynhyrchydd.

CYNHYRCHU - TECHNEGOL
Mae'r rolau yn cynnwys: Camera, Sain, Goleuo, Golygu, Celf, Peirianneg.

Gall llwybrau gyrfaol fod yn symlach yn y maes hwn. Mae sgiliau technegol penodol a datrys problemau technegol yn allweddol; os nad oes gennych alluoedd o'r fath i lefel uchel, yna ni fyddwch yn gweithio.

Yn draddodiadol byddai rhywun yn hyfforddi yn y swydd - fel cynorthwyydd camera, neu gynorthwyydd sain - ac yna byddai pobl yn mynd ar eu liwt eu hunain, neu'n cael gwaith fel y prif swyddog eu hunain. Mae technoleg fideo a digidol wedi golygu nad yw “cynorthwyydd” yn rôl gyffredin bellach, ac felly mae'n rhaid i fwy a mwy o bobl hyfforddi ar gyfer rolau technegol mewn Ysgolion Ffilm neu Adrannau Prifysgolion, neu gyda gweithgynhyrchwyr offer neu dai adnoddau.

Yn ogystal â'r sgiliau technegol, bydd Cynhyrchwyr corfforaethol sy'n cyflogi pobl camera, sain, golygyddion ac ati yn edrych am hyblygrwydd, personoliaeth gyfeillgar ac agwedd “eiddgar”.

CYFFREDINOL - GWEINYDDU, CEFNOGI
Mae'r rolau yn cynnwys: Rheolwr Cynhyrchu, Cyfrifydd Cynhyrchu, Cyfreithiwr, CC

Mae'r maes gwaith hwn yn gymharol gonfensiynol o'i gymharu â'r uchod. P'un a ydych am fod yn ysgrifenyddes neu'n gyfreithiwr, yn gyfrifydd neu'n rheolwr personél, byddwch yn hyfforddi yn y ffordd arferol.

 

Ond hyd yn oed yma ceir rhai rolau penodol i deledu, fel Rheolwr Cynhyrchu (RhC) nad oes ganddynt lwybr hyfforddi penodol hyd yn hyn. Mae RhC yn gymysgedd o reolwr cyllideb, trefnydd, recriwtiwr, pennaeth gweinyddu, cefnogaeth gyffredinol ac unrhyw swydd arall y gallant ei hysgwyddo ar gyfer cynhyrchiad. Maent yn adnabod gwyr technegol a'u cyfraddau, maent yn gwybod am brosesau ffilm a'u costau; maent yn gwybod am fwyafrif yr hyn sy'n berthnasol, ac os nad ydynt… maent yn gwybod sut i gael y wybodaeth yn gyflym. Mae cyrsiau hyfforddi byr ar gyfer y rôl hon, ond yr unig ffordd ymlaen mewn gwirionedd o bosib yw parhau i arsylwi a dysgu yn y gwaith.

 

 

 

Skills For Business Logo
Hafan |  Sector |  Cenhedloedd a Rhanbarthau |  Amdanom Ni |  Chwilio
Hawlfraint 2007-08 Skillset |  Polisi Defnydd Data |  Am y Safle Hwn |  Deddf Hygyrchedd

Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB. Tel: 020 7713 9800