
Cynllun Talent Cynhyrchu Cymru
Gallai eich cwmni cynhyrchu annibynnol dderbyn cyllid i gyflogi uwch gynhyrchydd am gyfnod o 3 blynedd trwy Gynllun Talent Cynhyrchu Cymru.
Mae'r cynllun tair blynedd hwn yn ceisio hyrwyddo Cymru fel darparwr sylweddol o allbwn Rhwydwaith, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, drwy roi cefnogaeth ariannol er mwyn recriwtio talent uwch gynhyrchu, i hybu'r gwaith cynhyrchu a chynorthwyo i wella sgiliau personél drwy fentora, cynghori a hyfforddi. Bydd gofyn i'r cwmnïau sy'n derbyn y cyllid ddarparu arian cyfatebol.
Os ydych yn gwmni cynhyrchu annibynnol sydd wedi bod yn llwyr weithredol ers tair blynedd, gydag o leiaf 3 darllediad yn eich enw a'ch pencadlys yng Nghymru, gallwch wneud cais nawr drwy e-bost: cymru@skillset.org neu drwy'r post i:
Skillset Cymru
33-35 West Bute Street
Bae Caerdydd
CF10 5LH
Gweler ein ![]()
Meini Prawf Cymhwysedd a Chanllawiau cyn anfon cais os gwelwch yn dda.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Gwener 6 Mehefin 2008.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Matthew Basham yn Skillset Cymru drwy e-bost: matthewb@skillset.org, neu ffoniwch 02920 452 828.
Cefnogir y Cynllun gan:
|
|
| |
|
| ||
If your computer has the relevant software, click the document icons or document titles to view the relevant document. Right-click (PC) or hold your mouse-button down (Mac) on the document icon/title, you'll be given the option to save the file to disk. If you don't have the necessary software to view the documents, take the above links to download free reader programs.











