Y Diwydiannau Creadigol - y diwydiant a'r gweithlu yng Nghymru
Maint a ffurf y gweithlu
Cyflogir ychydig dros 13,000 yn y diwydiannau cyfryngau creadigol yng Nghymru, gyda 28% o'r gweithlu yn weithwyr llawrydd.
Y sectorau mwyaf yng Nghymru o ran gweithlu yw'r Cyfrynagu Rhyngweithiol (bron i 4,000 o bobl gyflogai), Teledu (3,500 o gyflogai) a Chyhoeddi (2,000 o gyflogai).
Menywod yw 29% o weithlu'r cyfryngau creadigol yng Nghymru, mae 3% o'r gweithlu yn nodi eu bod o gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrif Ethnig (BAME) a 7% yn ystyried fod ganddynt anabledd (fel sy'n cael ei ddiffinio gan y Ddeddf Camwahaniaethu ar sail Anabledd). Mae 47% o'r gweithlu yn iau na 35 oed, sy'n awgrymu fod y gweithlu'n gymharol ifanc. Gall 29% o'r gweithlu yng Nghymru siarad Cymraeg.
Nodwedd yn y Diwydiannau Creadigol yng Nghymru yw cymwysterau uchel y gweithlu, gyda 68% o'r gweithlu yn meddu ar gymhwyster lefel gradd. Roedd bron i dri o bob pump (57%) o weithlu'r Cyfryngau Creadigol yng Nghymru wedi cyfranogi mewn hyfforddiant yn ystod y 12 mis blaenorol. Mae galwad uchel am hyfforddiant o hyd, gyda 56% o'r gweithlu yn nodi bod ganddynt anghenion hyfforddi neu ddatblygu ar hyn o bryd.
Gwybodaeth am y sectorau
Animeiddio
Mae'r sector animeiddio yn gryf iawn yng Nghymru, gyda nifer o brif stiwdios animeiddio Cymru wedi'u lleoli o amgylch ardal Bae Caerdydd.
Mae'r sector yn cyflogi tua 400 o bobl yng Nghymru, yr un nifer yn fras ag yn 2006. Amcangyfrir mai cyfanwsm trosiant blynyddol animeiddio yng Nghymru yw 7.5m.
Gemau Cyfrifiadurol
Amcangyfrifir fod y sector Cynnwys ar gyfer Gemau Cyfrifiadurol yng Nghymru yn cyflogi tua 50 o bobl, llai na 1% o gyfanswm y DU ar gyfer y sector hon. Yn sgil talgrynnu a gweithwyr llawrydd sy'n ‘taro i mewn ac allan' o'r sector, efallai fod y ffigwr hwn yn tanamcangyfrif gwir faint y sector hon yng Nghymru. Fodd bynnag, mae'r amcangyfrif yn awgrymu cwymp yn y ffigurau cyflogaeth ers 2006.
Mae'r sector Cynnwys ar gyfer Gemau Cyfrifiadurol yng Nghymru yn derbyn cefnogaeth gadarn gan nifer cynyddol o gyrsiau sy'n cael eu cynnig ar lefel Addysg Bellach ac Uwch, a chysylltiadau agos gyda'r sector Animeiddio.
Adnoddau
Sector cymharol fach o ran maint yw hon yng Nghymru, yn adlewyrchu lefelau cymharol isel o gynhyrchu ledled y wlad. Mae amcangyfrifon cyffredinol ledled y DU yn cyfeirio at weithlu o tua 43,000 o bobl. Mae llai na 2% (tua 700) yn gweithio yng Nghymru.
Ffilm
Mae tua 200 o bobl yn gweithio yn is-sector allweddol Cynhyrchu Ffilm yng Nghymru, sydd tua 2% o gyfanswm y DU. Mae Asiantaeth Ffilm Cymru yn amcangyfrif fod 180 o bobl eraill yn gweithio yn y sector Arddangos Mewn Sinemâu mewn 57 lleoliad yng Nghymru.
O ran effaith economaidd y sector Ffilm yng Nghymru, roedd y gwariant cynhyrchu yng Nghymru, yn uniongyrchol yn erbyn ffilm, yn ystod 2008-09 yn £1,898,165 - gyda 19% ohono yn unig yn deillio o gwmnïau cynhyrchu Cymreig, gyda'r mwyafswm yn dod o fuddsoddiad i mewn, yn bennaf o Loegr a'r UDA.
Cyfryngau Rhyngweithiol
Yn yr un modd a'r DU yn gyffredinol, mae'r sector Cyfryngau Rhyngweithiol yng Nghymru yn sector sy'n tyfu'n gyflym, gyda tua 3,850 o bobl yn gweithio yn y sector Cyfryngau Rhyngweithiol yng Nghymru (11% o gyfanswm gweithlu'r DU). O ran proffil cyflogaeth, nodwedd o'r sector yng Nghymru yw'r lefelau cymharol isel o waith llawrydd (7% o'r gweithlu) a lefelau isel iawn o gyfranogaeth gan fenywod (2% yn unig o'r gweithlu).
Llun ddelweddu
Mae'r diwydiant llun ddelweddu yn cyflogi oddeutu 1,200 o bobl yng Nghymru. Busnesau micro yw'r rhan fwyaf o'r sector llun ddelweddu yng Nghymru, ac felly yn ddibynnol iawn ar weithwyr llawrydd (tua dwy ran o dair o'r sector)
Cyhoeddi
Amcangyfrifir fod 2,000 o bobl yng Nghymru yn gweithio yn yr is-sector cyhoeddi papurau newydd (tua 3% o gyfanswm y DU ar gyfer yr is-sector hwn). Yng Nghymru, mae'r canfyddiadau yn dangos sector â diwydiant cadarn ond bychan o gyhoeddwyr bychan, annibynnol - cyhoeddi llyfrau yn bennaf yng ngogledd a chanolbarth Cymru, a chyhoeddi papurau newydd wedi'i leoli fwy yn y de
Radio
Mae tua 750 o bobl - 4% o gyfanswm y DU - yn gweithio yn y sector yng Nghymru. Mae'r amcangyfrif hwn yn cynrychioli cwymp o tua chwarter ers 2006. Amcangyfrifwyd fod un o bob deg (9%) o weithlu Radio yng Nghymru yn weithwyr llawrydd ar adeg yr arolwg (o'i gymharu gyda 23% ledled y DU yn gyfan).
Teledu
Awgryma amcangyfrifon cyfredol fod tua 3,500 o bobl yn gyflogedig yn y sector hon yng Nghymru. Mae'r mwyafrif o swyddi - tua 2,500 - yn y sector Cynhyrchu Annibynnol. Amcangyfrifir fod 1,000 o bobl yn gweithio ar gyfer Darlledwyr Daearol yng Nghymru. I gyd, mae 31% o'r sector Teledu yng Nghymru yn weithwyr llawrydd (er bod y ffigurau yn amrywio o 38% mewn Cynhyrchu Annibynnol i 15% mewn Darlledu Daearol).
Data o Asesiad Sgiliau Strategol Skillset ar gyfer Cymru 2010.
Am fwy o wybodaeth ynglyn ag ymchwil a gwblhawyd gan Skillset, ewch at ein tudalennau Ymchwil.