skip to page contents

Gyrfaoedd | Hyfforddiant | Cefnogaeth i Gwmnïau | Safoniau | Cymwysterau | Ymchwil | Strategaeth | Ariannu | Cenhedloedd a Rhanbarthau | Am Skillset
Animeiddio | Computer Games | Corfforaethol & Hysbysebion | Adnoddau | Ffilm | Cyfryngau Rhyngweithiol | Llun-Ddelweddau | Cyhoeddi | Radio | Teledu
Text size: A A A

Cenhedloedd a Rhanbarthau

Chwilio am Gwrs

Chwiliwch am gyrsiau ffilm, teledu, radio, animeiddio, y cyfryngau rhyngweithiol a llun ddelweddau yn y DU yn y cyfeirlyfr BFI/Skillset.








Ddraig Goch, Dinamo

Fframwaith Hyfforddiant Skillset Cymru

Mae Fframwaith Hyfforddiant Skillset Cymru, yn cefnogi cwmnïau cynhyrchu a gweithwyr llawrydd i wella eu sgiliau er mwyn cwrdd â her y diwydiannau cyfryngau creadigol sy'n esblygu'n barhaus.

Mae'r fframwaith, a ddatblygwyd mewn partneriaeth ag S4C a Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn agored i'r holl weithwyr llawrydd a chwmnïau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru.

Cefnogaeth i Gwmnïau yng Nghymru:
Gall cwmnïau cynhyrchu sydd wedi'u lleoli yng Nghymru dderbyn asesiad anghenion hyfforddiant am ddim gan ymgynghorydd Datblygu Adnoddau Dynol (DAD), i adnabod anghenion hyfforddiant a datblygiad eu staff. Gall cwmnïau wneud cais hefyd am gyllid tuag at gost hyfforddiant.

Gweler y ddogfen Microsoft Word DocumentCanllawiau a ffurflen Gais i Gyflogwyr am fwy o fanylion.

Cefnogaeth i Weithwyr Llawrydd yng Nghymru:
Os ydych yn gweithio fel gweithiwr llawrydd yng Nghymru, gallwch wneud cais i Fframwaith Hyfforddiant Skillset Cymru ar gyfer bwrsarïau i fynychu cyrsiau hyfforddiant. Gallwch wneud cais hefyd am gyngor ac arweiniad ar hyfforddiant am ddim gan ymgynghorydd hyfforddiant arbenigol yn y sector. Bydd yr ymgynghorydd yn eich helpu i asesu eich anghenion a'ch cyfeirio at ffynonellau cefnogaeth ariannol.

Gweler y ddogfen Microsoft Word DocumentCanllawiau a ffurflen Gais i Weithwyr Llawrydd am fwy o fanylion.

Gallwch hefyd lawrlwytho'r taflen wybodaeth isod, sy'n cynnwys wybodaeth am y Fframwaith Hyfforddiant, astudiaethau achos ac hefyd gwydbodaeth ychwanegol am gwasanaethau Skillset yng Nghymru.
Adobe Acrobat DocumentSkillset Cymru Training Framework

Am wybodaeth bellach am y fframwaith, cysylltwch â waynef@skillset.org yn Skillset Cymru, neu ffoniwch 02920 452 834.

Skills For Business Logo
Hafan |  Sector |  Cenhedloedd a Rhanbarthau |  Amdanom Ni |  Chwilio
Hawlfraint 2007-08 Skillset |  Polisi Defnydd Data |  Am y Safle Hwn |  Deddf Hygyrchedd

Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB. Tel: 020 7713 9800