skip to page contents

Gyrfaoedd | Hyfforddiant | Cefnogaeth i Gwmnïau | Safoniau | Cymwysterau | Ymchwil | Strategaeth | Ariannu | Cenhedloedd a Rhanbarthau | Am Skillset
Animeiddio | Computer Games | Corfforaethol & Hysbysebion | Adnoddau | Ffilm | Cyfryngau Rhyngweithiol | Llun-Ddelweddau | Cyhoeddi | Radio | Teledu
Text size: A A A

Cenhedloedd a Rhanbarthau

Chwilio am Gwrs

Chwiliwch am gyrsiau ffilm, teledu, radio, animeiddio, y cyfryngau rhyngweithiol a llun ddelweddau yn y DU yn y cyfeirlyfr BFI/Skillset.








Angharad Penrhyn Jones

Angharad Penrhyn Jones

Ar ba fath o ffilmiau/rhaglenni/prosiectau yr ydych yn gweithio?
Wnes i gyfarwyddo a chynhyrchu y gyfres ddogfen 'Ar Y Stryd' ar gyfer S4C a chynhyrchu a chyfarwyddo y rhaglen ddogfen 'Psychic Surgeon' ar gyfer BBC2 (ennillodd wobr  BAFTA Cymru am y Newydd-ddyfodiad Gorau a gwobrau am y rhaglen ddogfen Materion Cyfoes Orau ar gyfer 'Street Life'  ac enwebiad ar gyfer 'Psychic Surgeon')

Beth yw'r rhan orau o'ch swydd?
Rwy'n eithaf busneslyd, ac mae'r rhaglenni dogfen yn rhoi cip i mi ar fywydau pobl eraill - cipiau na fyddwn i fel arall yn cael cyfle i'w gweld. Rwy'n dwlu ar yr ochr greadigol ac yn hoffi gweithio'n agos gyda'r golygydd - dwi ddim yn trosglwyddo'r deunydd crai i'r golygydd a dyna hi. Mae helpu i ddatblygu'r deunydd yn gyffrous. Mae cael syniad a'i ddilyn hyd pen ei daith yn rhoi boddhad mawr i mi.

Oes unrhyw agweddau o'ch swydd nad ydych yn hoffi?
Mae anodd cael comisiwn ar gyfer syniadau ac yna mae'n gyfrifoldeb mawr, o dan bwysau, i geisio cael y ffilm i weithio. Gwybod bod aelodau eraill o'r tîm yn dibynnu arna'i a'r prosiect. Dwi ddim yn hoffi gweithio oddi adref chwaith. Rwyf newydd gael babi ac mae hynny'n bwysig iawn i mi nawr. Mae rhaglenni dogfen yn meddiannu eich bywyd. Rwy'n ei chael hi'n anodd ymlacio - mae'r gwaith yn treiddio i'ch bywyd.

Sut wnaethoch chi ddechrau yn y diwydiant?
Graddiais mewn Saesneg o Brifysgol Cymru, Aberystwyth. Gweithiais ar raglen gylchgrawn ddigidol S4C i gwmni o'r enw Zenana, nad yw'n bodoli mwyach. Roeddwn yn ymchwilio i eitemau, cyflwyno a ffilmio ond gadewais ar ôl chwe mis am fy mod am wneud rhaglenni mwy dwfn. Yna ces i gyfle gan Wil Aaron yn Ffilmiau'r Nant yng Nghaernarfon i weithio gydag ef. Roedd yn brofiad gwych a ches i'r cyfle i ddatblygu fy nwy raglen am y digartref yng ngogledd Cymru (Ar Y Stryd).  Diolch i enw da a chefnogaeth Wil wnaeth S4C roi ei ffydd ynof a wnes i gyfarwyddo, cyflwyno ac ymchwilio. Cymerodd ddwy flynedd i wneud y ddwy raglen 50 munud - ces i fy mwrw i'r dwfn ac roedd yn bwnc torcalonnus. Sara Penrhyn Jones, fy chwaer, oedd y ferch gamera a'r cyfarwyddwr cynorthwyol.

Pa sgiliau neu briodoleddau sydd eu hangen yn eich swydd chi?
Chwilfrydedd go iawn am bobl. Rhaid sylwi ar bopeth a bod â'r gallu i siarad â phawb. Rwyf fel ci ag asgwrn pan mae gennyf stori ond mae angen bod yn ddiplomataidd a chael y gallu i ddarbwyllo.

Ydych chi wedi derbyn unrhyw hyfforddiant ers i chi ddechrau yn y diwydiant?
Ydw, es i ar gwrs radio yn y BBC yn Llundain, rhan o'r wobr o £1000 o bunnoedd gan Skillset am ennill gwobr Newydd-ddyfodiad BAFTA.

Skills For Business Logo
Hafan |  Sector |  Cenhedloedd a Rhanbarthau |  Amdanom Ni |  Chwilio
Hawlfraint 2007-08 Skillset |  Polisi Defnydd Data |  Am y Safle Hwn |  Deddf Hygyrchedd

Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB. Tel: 020 7713 9800