skip to page contents

Gyrfaoedd | Hyfforddiant | Cefnogaeth i Gwmnïau | Safoniau | Cymwysterau | Ymchwil | Strategaeth | Ariannu | Cenhedloedd a Rhanbarthau | Am Skillset
Animeiddio | Computer Games | Corfforaethol & Hysbysebion | Adnoddau | Ffilm | Cyfryngau Rhyngweithiol | Llun-Ddelweddau | Cyhoeddi | Radio | Teledu
Text size: A A A

Cenhedloedd a Rhanbarthau

Chwilio am Gwrs

Chwiliwch am gyrsiau ffilm, teledu, radio, animeiddio, y cyfryngau rhyngweithiol a llun ddelweddau yn y DU yn y cyfeirlyfr BFI/Skillset.








'Bandit', S4/C

Owain Elidir

Ar ba ffilmiau/rhaglenni/prosiectau yr ydych wedi bod yn gweithio?

Rwy'n helpu i redeg cwmni Bait ym Mae Caerdydd, ac rydym yn gwneud graffeg symudol a dilyniannau teitlau ar gyfer teledu a Chyfryngau Newydd, ac rydym yn ymwneud â datblygu gwefannau newydd.

Beth yw'r oriau gwaith?

Fel arfer 10yb tan 6yh ond nawr ac yn y man efallai byddwn yn gweithio o 9yb -2yp neu 80 awr yr wythnos ar dasg arbennig i gwrdd â'r terfyn amser.

Pa gymwysterau neu sgiliau sydd eu hangen arnoch?

Mae angen y gallu i  wneud sawl gorchwyl a pharchu a gwerthfawrogi anghenion a safonau busnes a chreadigol.

Sut wnaethoch chi ddechrau yn y diwydiant?

Gwnes i radd mewn gwleidyddiaeth ac economeg ym Mhrifysgol Manceinion ac yna, tra'n gweithio'n rhan amser, ces i swydd fel rhedwr a golygydd dan hyfforddiant gyda  Barcud Derwen ac yna es i'n olygydd yno. Gwnes i gwrs NVQ tra yno ac ar ôl hynny mynychais gwrs golygu a hyfforddi byr iawn yng ngholeg Ravensbourne, Kent. Gweithiais fel DJ hefyd ac roeddwn yn rhan o'r Acid Casuals, grwp o DJ's yn gweithio dros Gymru gyfan. Roedd Rob Giles yn rheoli gwefan yr Acid Casuals ac es ynghlwm wrth hwn, yn gweithio gyda Rob a Paul Nicholas yn gwneud cyfres o ddewislenni ar gyfer DVD Super Furry Animals i fynd gyda'u halbwm Rings Around the World. Enillodd enwebiad gwobr ryngweithiol BAFTA UK, enillodd wobr BAFTA Cymru a gwobr y Gymdeithas DVD. Yn 2002 wnaethon ni'n tri ddechrau ein cwmni ein hunain.

Ydych chi wedi derbyn unrhyw hyfforddiant ers i chi ddechrau yn y diwydiant?

Gwnes i gwrs 8 - 10 diwrnod haf diwethaf  a drefnwyd gan Ysgol Fusnes Caerdydd. Roedd yn trafod agweddau gwahanol o fusnes, fel sut i werthu'ch hun, cyfathrebu a seicoleg. Roedd yn ddefnyddiol iawn.

Pa gyngor fyddech yn ei roi i bobl sydd am ehangu eu maes gwaith?

Gwnewch ymchwil i'r farchnad, penderfynwch ar eich marchnad a ble y gellid gwerthu eich cynnyrch neu'ch sgiliau a thargedwch y bobl hynny. Peidiwch ag ymgymryd â gormod o waith a pheidiwch â cheisio gwneud gormod ar unwaith, yn enwedig gyda Chyfryngau Newydd. Peidiwch â cholli ffocws.

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun ar ddechrau'i yrfa?

Gweithiwch yn galed, dangoswch frwdfrydedd ac ymrwymiad. Yn No brake rydym yn edrych am agwedd dda a chymeriad. Mae llawer o ymgeiswyr yn meddwl eu bod yn gallu gweithio gydag unrhyw becyn meddalwedd ond yn aml maent yn gallu gwneud llawer o becynnau ond ddim yn dda iawn, felly dylai unrhyw ymgeiswyr osgoi gwneud honiadau nad ydynt yn gallu'u cefnogi.  Ein pecynnau ni gyda llaw yw After Effects ac Illustrator, ond rydym yn gwmni bychan ac yn chwilio am ymgeiswyr arbenigol.

Skills For Business Logo
Hafan |  Sector |  Cenhedloedd a Rhanbarthau |  Amdanom Ni |  Chwilio
Hawlfraint 2007-08 Skillset |  Polisi Defnydd Data |  Am y Safle Hwn |  Deddf Hygyrchedd

Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB. Tel: 020 7713 9800