skip to page contents

Gyrfaoedd | Hyfforddiant | Cefnogaeth i Gwmnïau | Safoniau | Cymwysterau | Ymchwil | Strategaeth | Ariannu | Cenhedloedd a Rhanbarthau | Am Skillset
Animeiddio | Computer Games | Corfforaethol & Hysbysebion | Adnoddau | Ffilm | Cyfryngau Rhyngweithiol | Llun-Ddelweddau | Cyhoeddi | Radio | Teledu
Text size: A A A

Cenhedloedd a Rhanbarthau

Chwilio am Gwrs

Chwiliwch am gyrsiau ffilm, teledu, radio, animeiddio, y cyfryngau rhyngweithiol a llun ddelweddau yn y DU yn y cyfeirlyfr BFI/Skillset.








Golygfa o 'Cwm Teg'

Aron Evans

Disgrifiwch eich swydd. 

Rwy'n rhedeg Cwmni Dinamo ym Mae Caerdydd gydag Owen Stickler, ac yn helpu animeiddio weithiau. Fy mhrif swydd yw ennyn a helpu i gynhyrchu gwaith ar gyfer y stiwdio - cyfresi animeiddio a gwaith interstitaidd gan fwyaf.

Ar ba fath o ffilmiau/rhaglenni yr ydych yn gweithio?

Rydym yn animeiddio trydedd gyfres 'CNEX' (cyfres ddychanol S4/C) gyda chwmni animeiddio Griffilms o Gaernarfon, ac rydym wedi bod yn gweithio ar effeithiau cyfansawdd ar gyfer y gyfres ddrama 'Con Passionate' ar S4C. Rydym hefyd wedi gwneud teitlau ar gyfer rhaglenni Eisteddfod yr Urdd ar y sianel, a byddwn yn dechrau gwaith animeiddio eto cyn hir ar y gyfres ddrama 'O Na Y Morgans'. Rydym yn hefyd gwneud cyfres ryngwladol i blant cyn-ysgol: 'Cwm Teg'.

Beth yw'r oriau gwaith?

9.30yb-6yh yn y swyddfa, ond rwy'n aml yn gweithio gartref gyda'r nos.

Sut wnaethoch chi ddechrau yn y diwydiant?

Daeth Gweithdy Fideo Canolfan Celfyddydau'r Chapter yng Nghaerdydd i'r ysgol (Ysgol Uwchradd Glantaf) i wneud fideo bop, ac fe gymerais i ran yn y peth.  Dangoswyd y fideo ar y teledu, ac yna wnes i ac Owen Stickler, disgybl arall (yr oeddwn wedi bod yn ffrindiau ag ef yn yr ysgol gynradd) ffilm animeiddiedig fer Killing Time. Wedi hynny aethon ni i weithio i gwmni animeiddio Cinetig yng Nghaerdydd cyn dechrau Dinamo.

Pa fath o gymwysterau sydd eu hangen?

HND a gradd mewn animeiddio y dyddiau yma yn fy marn i. Dylai pobl ddatblygu'u sgiliau bywlunio hefyd.

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i bobl ar ddechrau'u gyrfa?

Lluniwch bortffolio da o'ch gwaith a datblygwch eich gwefan eich hun. Os gwnewch chi ffilm hyrwyddo gwnewch yn siwr ei fod yn un fer, a gorffennwch trwy wneud amryw o ddarnau gan ddefnyddio technegau gwahanol. Gwnewch yn siwr bod y sain o safon uchel - mae sain gwan ar lawer o ffilmiau hyrwyddo.

Sut dewch chi i wybod am waith sydd ar gael?

Rhwydweithio, gwneud busnes a chysylltiadau - yn y dafarn yn aml, ac nid trwy gyfweliadau ffurfiol yn unig. Dylai pobl ddysgu ymlacio wrth gwrdd â chysylltiadau a pheidio bod yn rhy betrusgar.

Skills For Business Logo
Hafan |  Sector |  Cenhedloedd a Rhanbarthau |  Amdanom Ni |  Chwilio
Hawlfraint 2007-08 Skillset |  Polisi Defnydd Data |  Am y Safle Hwn |  Deddf Hygyrchedd

Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB. Tel: 020 7713 9800