Ali Yassine
Ali Yassine: Cyfarwyddwr-Gynhyrchydd llawrydd dramâu a rhaglenni dogfen
Ar ba ffilmiau/rhaglenni/prosiectau yr ydych yn gweithio?
Rwy'n cynllunio drama-ddogfen ar Lawrence o Arabia ar gyfer S4C. Yn ddiweddar wnes i gyfres ddogfen tair rhan i BBC Cymru yn dilyn tîm pêl-droed ceiswyr lloches yng Nghymru - Away from Home . Cyn hynny wnes i gyfarwyddo penodau o EastEnders a Phobol y Cwm.
Sut wnaethoch chi ddechrau yn y diwydiant?
Yn yr 1980au roeddwn yn aelod o fand reggae, Level Vibes. Wedi imi gwrdd â darlledwyr tra'n chwarae cerddoriaeth a gweithio fel swyddog cyhoeddusrwydd ar y prosiect Grassroots (Prosiect Ieuenctid Canol y Ddinas) yng Nghaerdydd, helpais wneud ychydig o raglenni ar leiafrifoedd ethnig i BBC Cymru a HTV. Des i o ardal dociau'r ddinas, o deulu o dras Eifftaidd/Somalaidd felly roedd gen i brofiad o ystod eang o ddiwylliannau ac roeddwn am weithio ym myd teledu. Dechreuais wneud fideos cymunedol i'r Gweithdy Fideo yng Nghanolfan Celfyddydau'r Chapter yng Nghaerdydd, ac fel Mwslim o Gaerdydd, roeddwn wedi cwrdd â phob math o bobl erbyn hynny ac am ddod hyd i fy llais i. Tua 1986 wnes i gwrs iaith Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd er mwyn cryfhau fy hunaniaeth Gymraeg ac roedd hynny'n help i mi ennill lle ar gwrs dwy flynedd Cyfle, ar ôl anwythiad ar gwrs tri mis yng Nghaernarfon. Hyfforddais fel Ail Gyfarwyddwr Cynorthwyol a diolch i'r cwrs ges i waith gydag wyth cwmni a theithio dros Gymru gyfan.
Sut fyddech yn cynghori pobl i ddechrau'u gyrfaoedd yn y diwydiant?
Gwyliwch bopeth - ffilmiau/rhaglenni dogfen/ animeiddiadau - unrhyw faes efallai yr hoffech fynd iddo, a byddwch yn barod i ddarganfod sut mae rhaglenni yn cael eu llunio. Peidiwch ag ofni dysgu wrth bobl sy'n iau na chi Dylech fod yn barod i rwydweithio a chreu perthnasau newydd. Mae'r diwydiant yma'n daith emosiynol - yn enwedig i weithwyr llawrydd, ac mae'n rhaid i chi gadw'n gryf.
Pa sgiliau neu briodoleddau sydd eu hangen?
Mae angen bod yn groengaled oherwydd mi fydd yna adegau caled a chewch eich gwrthod. Mae angen stamina, penderfyniad a chymhelliad.
Beth oedd eich cyfle mwyaf lwcus?
Derbyn y cyfle i gyfarwyddo bloc o raglenni EastEnders .Rwyf wedi gwneud eithaf tipyn o gyflwyno ac actio i S4C dros y blynyddoedd ac wedi gwneud tair cais, yn aflwyddiannus, i dderbyn hyfforddiant aml-gamera i Pobol Y Cwm. Rwy'n hoffi gwneud popeth: mae'n gymaint o hobi ac yw o yrfa i mi ac rwy'n dyheu am ddatblygu.
Un flwyddyn gwnes i gymaint o waith cyfarwyddo amryfal ag y gallwn fel rhywun annibynnol, anfonais waith at y BBC yn Llundain ac enillais le ar gwrs hyfforddi yn Elstree gyda'r BBC yn gweithio ar system aml-gamera (fel cyfarwyddwr stiwdio dan hyfforddiant) cyn imi gael y cyfle gydag EastEnders . Roedd hwnna'n brofiad aruthrol. Weithiau byddech yn gwneud 250 o olygfeydd mewn 10 diwrnod, 50 golygfa i bob rhaglen, llawer mwy nag ar Pobol Y Cwm, a gallech fod yn defnyddio gymaint â saith camera yn y stiwdio, oedd yn dipyn o her. Gwnes i elwa hefyd o wneud cwrs drama tair blynedd ym Mhrifysgol Morgannwg, a graddiais yn 2000.
Pa gymwysterau ffurfiol sydd eu hangen yn y diwydiant?
Byddwn yn argymell cyrsiau Cyfle. Credaf fod cyrsiau sy'n cael eu rhedeg gan y diwydiant yn fwy buddiol heddiw na chyrsiau Cyfryngau'r colegau. Mae cyflogwyr am gael pobl sydd wedi cael hyfforddiant go iawn a phrofiad gwaith.
