skip to page contents

Gyrfaoedd | Hyfforddiant | Cefnogaeth i Gwmnïau | Safoniau | Cymwysterau | Ymchwil | Strategaeth | Ariannu | Cenhedloedd a Rhanbarthau | Am Skillset
Animeiddio | Computer Games | Corfforaethol & Hysbysebion | Adnoddau | Ffilm | Cyfryngau Rhyngweithiol | Llun-Ddelweddau | Cyhoeddi | Radio | Teledu
Text size: A A A

Cenhedloedd a Rhanbarthau

Chwilio am Gwrs

Chwiliwch am gyrsiau ffilm, teledu, radio, animeiddio, y cyfryngau rhyngweithiol a llun ddelweddau yn y DU yn y cyfeirlyfr BFI/Skillset.








Steve Robinson, Cyfarwyddwr Indus

Steve Robinson

Ar ba fath o ffilmiau/rhaglenni/prosiectau yr ydych yn gweithio?

Rhaglenni dogfen antur, anthropolegol yn aml. Fel cynhyrchydd cyfres ar Tribe gyda'r BBC rwyf wedi gweithio gyda chriw cyson yng nghanolbarth yr Affrig, Yr Amazon ac Ethiopia. Gwnaethon ni chwe rhaglen o Tribe llynedd ac rydym yn gwneud dwy gyfres arall - un yn Ethiopia ac un chwe rhan yn cynnwys ardaloedd o America, Bhutan a'r Himalayas. Rydym yn ffilmio rhaglen bywyd gwyllt gyda Iolo Williams ar gyfer Indus. Rwyf hefyd yn gwneud rhaglen ar Everest ar gyfer BBC4.

Pa fath o sgiliau sydd eu hangen yn eich swydd chi?

Rhaid bod yn wydn a gallu gweithio'n dda gydag eraill a'u gwerthfawrogi. Ar gyfer y math o raglenni dwi'n gwneud mae hefyd angen y gallu i weithio am gyfnodau hir o dan amodau caled, bod yn barod i fyw mewn amodau garw, gwersylla, bwyta bwyd lleol digon amheus, ymolchi mewn afonydd ayb., a bod yn hyblyg. Er enghraifft, wnaethon ni ffilmio am chwe wythnos yn y Gabon yn byw gyda llwyth y pigmy, ac rydym yn defnyddio camerâu ysgafn Sony DSRs, camera DV, Sony Z1.  Mae angen cael cyn lleied o effaith a defnyddio cyn lleied o dechnoleg ag sy'n bosib. Rydych yn dysgu i beidio mynd â generadur - rydym yn dibynnu ar bwer yr haul yno, neu fe all y swn ddinistrio'r awyrgylch. Rwy'n dwlu gwneud rhaglenni antur. Mae angen bod yn ffit ond mewn ffordd yr awyr agored yw fy mywyd - rwy'n caru hwylio a cherdded mynyddoedd, er enghraifft.

Sut wnaethoch chi ddechrau yn y diwydiant?

Roeddwn wedi bod yn newyddiadurwr ers blynyddoedd - ar y Cambrian News, yna'r Western Morning News ac yna fel is-olygydd ar y Western Mail . Yn 28 mlwydd oed ces i waith fel ymchwilydd ar raglen newyddion S4/C, 'Heno'. Roedd yn sylfaen wych ym myd teledu: ffilmio gyda chriw a dyn sain pum diwrnod yr wythnos am fisoedd ac ysgrifennu sgriptiau. Dysgais strwythur fel newyddiadurwr ac roedd hynny'n ddefnyddiol iawn. Yna dechreuais wneud rhaglenni hwylio, syrffio a dringo yn yr awyr agored i S4C a chymerais ran yn a ffilmio y râs hwylio o amgylch Prydain. Yna fe wnes i gyfres antur i Sky Sports, ond hefyd rhaglen ddogfen i'r BBC, 'The Man Who Jumped to Earth', yn son am Eric Jones, oedd yn neidio o bellterau uchel yn Angel Falls, Venezuela.

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i bobl ar ddechrau'u gyrfa?

Dysgwch wrth y bobl sy'n gweithio ochr yn ochr â chi. Mae rhai pobl yn hoffi cymryd y llyw, ond dylech ddangos gwyleidd-dra ar leoliad a defnyddio profiad eraill.

Skills For Business Logo
Hafan |  Sector |  Cenhedloedd a Rhanbarthau |  Amdanom Ni |  Chwilio
Hawlfraint 2007-08 Skillset |  Polisi Defnydd Data |  Am y Safle Hwn |  Deddf Hygyrchedd

Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB. Tel: 020 7713 9800