skip to page contents

Gyrfaoedd | Hyfforddiant | Cefnogaeth i Gwmnïau | Safoniau | Cymwysterau | Ymchwil | Strategaeth | Ariannu | Cenhedloedd a Rhanbarthau | Am Skillset
Animeiddio | Computer Games | Corfforaethol & Hysbysebion | Adnoddau | Ffilm | Cyfryngau Rhyngweithiol | Llun-Ddelweddau | Cyhoeddi | Radio | Teledu
Text size: A A A

Cenhedloedd a Rhanbarthau

Chwilio am Gwrs

Chwiliwch am gyrsiau ffilm, teledu, radio, animeiddio, y cyfryngau rhyngweithiol a llun ddelweddau yn y DU yn y cyfeirlyfr BFI/Skillset.








Kelly-Marie Angell

Kelly-Marie Angell

Myfyrwraig brifysgol yw Kelly-Marie Angell o dde Cymru, ond mae eisoes wedi gwneud ei marc fel golygydd sain gan mai hi sy'n gyfrifol am sain corfforol Doctor Who yn y rhaglen oriau brig nos Sadwrn ar BBC One. Fel golygydd Foley mae Kelly-Marie yn sicrhau bod y Timelord yn swnio cystal â phosib, gan dorri darnau o seleri er mwyn ail greu synau esgyrn yn torri, a malu melon ar gyfer swn gwaed yn tasgu. Mae hefyd wedi gweithio ar y rhaglenni a ddeilliodd o Doctor Who, Torchwood a Sarah Jane Adventures. Ac mae ei thalent cystal nes iddi ennill gwobr Conch Skillset 2007 am y newydd-ddyfodiad mwyaf addawol yn y DG o fewn y diwydiant ôl-gynhyrchu sain.

Ers oedran cynnar roedd gan Kelly-Marie gerddoriaeth yn ei gwaed fel chwaraewr piano talentog a chantores gradd 8. Daeth ei phrofiad cyntaf o dechnoleg cerddoriaeth pan oedd yn yr ysgol yn ystod wythnos o brofiad gwaith gyda BBC Cymru. Yn 16 oed, gwelodd yr hyn oedd ei angen er mwyn cynhyrchu cyngerdd Nadolig byw yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. Meddai: "Bu gen i ddiddordeb mewn cerddoriaeth a thechnoleg cerddoriaeth erioed. Roeddwn yn credu y byddwn yn mynd i fyd y theatr ac yn peiriannu sain yn fyw. "Cefais brofiad gwaith ar sioe gerdd Chicago yn y West End tua dwy flynedd yn ôl, yn trefnu'r meicroffonau a sicrhau bod cydbwysedd y sain yn gywir."Ond y wers fwyaf a ddysgais oedd y pwysau enfawr oedd ar y peirianwyr. Nid ydynt yn cael ail gyfle."

Yna gweithiodd Kelly-Marie ar gyfer S4C yn yr adran clips and dubs cyn i gyfaill i'r teulu fedru sicrhau swydd iddi fel peiriannydd sain ar Dr Who yn ystod blwyddyn o seibiant o'i astudiaethau technoleg cerddoriaeth ym Mhrifysgol Portsmouth. Am dros flwyddyn bu'n gweithio ar y gyfres fel golygydd Foley - a enwyd ar ôl y peiriannydd sain arloesol Jack Foley. Mae Kelly-Marie yn edrych ar bob golygfa, ac yna'n penderfynu pa sain a ddylid ei ddefnyddio gyda symudiad pob cymeriad yn sioe'r BBC.

"Ar ddiwrnod arferol byddaf yn eistedd yn yr ystafell olygu. Nid fi sy'n gwneud y synau, ond rwy'n eu golygu ac yn sicrhau eu bod yn addas ar gyfer yr olygfa" esbonia "O ddydd i ddydd nid yw'n gyfareddol a chyffrous. Ond mae nifer o fuddiannau. Cefais fynychu gwobrwyon Bafta Cymru ym mis Ebrill. Rwyf wedi bod ar y set nifer o weithiau ac wedi bod i bartïon cloi. Ac rwyf wedi cwrdd â David Tennant (Dr Who), John Barrowman (Captain Jack Harkness), Eve Myles (Gwen Cooper yn Torchwood) a Burn Gorman (Owen Harper yn Torchwood)."

Ar hyn o bryd mae Kelly-Marie yn gweithio ar ail gyfres Torchwood a Sarah Jane Adventures. Mae ar ei blwyddyn olaf o'i gradd mewn technoleg cerddoriaeth. Ond yn sgil ei hymrwymiadau gyda Dr Who bydd yn parhau gyda'i hastudiaethau gan fwyaf yng Nghaerdydd, gan ddychwelyd ar gyfer darlithoedd hanfodol. O ran ei chynlluniau ar gyfer y dyfodol, mae Kelly-Marie yn edrych ymlaen at gyfres nesaf Dr Who ac mae ganddi rai ffilmiau nodwedd y mae'n gobeithio gweithio arnynt. Mae hefyd yn bwriadu troi ei llaw at olygu deialog, yn gweithio gyda geiriau yn hytrach na synau naturiol, ac yn ehangu ei sgiliau.

O ran cyngor i unrhyw olygyddion sain newydd, meddai Kelly-Marie: "Byddwch yn ddyfal. Mae'n faes anodd a chystadleuol ond gyda lwc bydd yn talu ffordd os ydych yn benderfynol. "Ceisiwch gyfarfod cymaint o bobl ag sy'n bosib a rhoi cynnig ar gymaint o bethau ag y medrwch. Gorau po fwyaf o brofiad a gewch."

Skills For Business Logo
Hafan |  Sector |  Cenhedloedd a Rhanbarthau |  Amdanom Ni |  Chwilio
Hawlfraint 2007-08 Skillset |  Polisi Defnydd Data |  Am y Safle Hwn |  Deddf Hygyrchedd

Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB. Tel: 020 7713 9800