
Fframwaith Hyfforddiant Skillset Cymru
Mae Fframwaith Hyfforddiant Skillset Cymru, yn cefnogi cwmnïau cynhyrchu a gweithwyr llawrydd i wella eu sgiliau er mwyn cwrdd â her y diwydiannau cyfryngau creadigol sy'n esblygu'n barhaus.
Mae'r fframwaith, a ddatblygwyd mewn partneriaeth ag S4C a Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn agored i'r holl weithwyr llawrydd a chwmnïau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru.
Cefnogaeth i Gwmnïau yng Nghymru:
Gall cwmnïau cynhyrchu sydd wedi'u lleoli yng Nghymru dderbyn asesiad anghenion hyfforddiant am ddim gan ymgynghorydd Datblygu Adnoddau Dynol (DAD), i adnabod anghenion hyfforddiant a datblygiad eu staff. Gall cwmnïau wneud cais hefyd am gyllid tuag at gost hyfforddiant.
Gweler y ddogfen ![]()
Canllawiau a ffurflen Gais i Gyflogwyr am fwy o fanylion.
Cefnogaeth i Weithwyr Llawrydd yng Nghymru:
Os ydych yn gweithio fel gweithiwr llawrydd yng Nghymru, gallwch wneud cais i Fframwaith Hyfforddiant Skillset Cymru ar gyfer bwrsarïau i fynychu cyrsiau hyfforddiant. Gallwch wneud cais hefyd am gyngor ac arweiniad ar hyfforddiant am ddim gan ymgynghorydd hyfforddiant arbenigol yn y sector. Bydd yr ymgynghorydd yn eich helpu i asesu eich anghenion a'ch cyfeirio at ffynonellau cefnogaeth ariannol.
Gweler y ddogfen ![]()
Canllawiau a ffurflen Gais i Weithwyr Llawrydd am fwy o fanylion.
Gallwch hefyd lawrlwytho'r taflen wybodaeth isod, sy'n cynnwys wybodaeth am y Fframwaith Hyfforddiant, astudiaethau achos ac hefyd gwydbodaeth ychwanegol am gwasanaethau Skillset yng Nghymru.![]()
Skillset Cymru Training Framework
Am wybodaeth bellach am y fframwaith, cysylltwch â waynef@skillset.org yn Skillset Cymru, neu ffoniwch 02920 452 834.
If your computer has the relevant software, click the document icons or document titles to view the relevant document. Right-click (PC) or hold your mouse-button down (Mac) on the document icon/title, you'll be given the option to save the file to disk. If you don't have the necessary software to view the documents, take the above links to download free reader programs.






